Dwi Eisiau Mynd Gartref
By: Morgan Kendall | Ysgol Gyfun Cwm Rhymni
Beth ydw i'n wneud fan hyn? Sai'n gwybod. Credais taw antur oedd yr holl peth. Roeddwn i'n hollol anghywir. Ni ddylai unrhyw un fyw fel hyn! Dwi'n sownd ac yn suddo mewn llaid. Dwi wedi fy ngorchuddio â gwaed a beth bynnag mae'r Rhyfel yma'n gynhyrchu!
Ddylwn i fod gartref gyda fy ngwraig Rose, gartref gyda fy mhlentyn bach Huw. Ond yn anffodus rydw i yma gyda fy ffrindiau a chymdeithion, well beth sydd ar ôl ohonynt. A dwi'n casau pob eiliad ohono. Dwi'n gweld eisiau fy nheulu, dwi'n gobeithio bod nhw'n iawn a diogel.
Rwy'n llawn cleiiau ac mae fy nwylo'n siglo at y syniad o ladd rhywun. Unrhyw un! Mae fy esgidiau wedi diflannu yn y mwd sy'n fy llyncu'n araf.
Mae fy meddwl'n ffrwydro â meddyliau, mwyafrif ohonynt amdanaf fi a pham yr ymunais â'r Rhyfel yma! Dwi'n flin fy mod i'n bihafio fel hyn, ond mae'r Rhyfel wedi fy newid. Nid y dyn oedd yn gweithio yn y siop ydw i, milwr ydw i, a dwi eisiau mynd gartref.
- All
- Artwork
- Film / Video
- Craft
- Music
- Literature
- Merthyr Tydfil Writing Squad
- Dowlais Visual Art Group
- Cwmbran High School
- Blaenau Gwent Rhythm & Ukes
- Ysgol Gyfun Cwm Rhymni
- Thornhill Craft Group
- BG Drama Group
- Caerphilly Parents Network
-
Pack up your troubles / It's a long way to Tipperary
Blaenau Gwent Rhythm & Ukes