Stori Tylwyth Teg
By: Alex Deacon | Ysgol Gyfun Cwm Rhymni
Dwi'n gweithio i lawr y ffatri, dwi yn. Yn creu darnau am y bomiau, mae'n beryglus, rydw i'n gw'bod. Ond byddwn yn gwneud un rhywbeth dros ein dynion allan yn Ffrainc.
Rydw i'n hoffi helpu, fel pob hogan arall. Y plant, nhw yw'r peth pwysica yn y rhyfel. Ein bechgyn a fydd yn gweithio yn y ffatrioedd neu yn y pwll ac fydd ein merched yn wragedd ac yn gofalu am y dynion. Ar y gyfradd yma fe fydd ceir sy'n gallu hedfan neu radio sydd efo lluniau yn fuan!
Mae yna fenyw yn ein reoli yn y ffatri. Nid yw hi'n llwyddo cymaint â'r dynion ond mae'n rhaid ei chanmol, nid yw unrhyw ddamwain ael wedi digwydd eto.
Dydw i ddim yn hapus iawn efo'r menywod yn cymryd swyddi ein dynion, ond dwi'n ymwybodol fod yn rhaid i rai pethau newid. Ond ble bydd e'n stopio? Menywod yn ddoctoriaid, gwleidyddion neu filwyr?
Mae rhaid i ni ofalu am ein dynion, fel y dywed y Beibll. Byddaf yn prynu ffrogiau hyfryd a fydd dim angen i mi wisgo dillad dynion byth eto! Trowsus ar fenywod? Am beth twp!
Byddaf yn priodi milwr, dwi'n sicr. Bydd priodas grand ac byddaf yn priodi arwr rhyfel. Wel, nid os na gymerwn ni oddi ar y tocynnau bwyd and sdim ots. Dwi eisiau 5 o blant ac arwr o ŵr. Amy a'r arwr? Swnio fel un o straeon y mabinogion.
- All
- Artwork
- Film / Video
- Craft
- Music
- Literature
- Merthyr Tydfil Writing Squad
- Dowlais Visual Art Group
- Cwmbran High School
- Blaenau Gwent Rhythm & Ukes
- Ysgol Gyfun Cwm Rhymni
- Thornhill Craft Group
- BG Drama Group
- Caerphilly Parents Network
-
Pack up your troubles / It's a long way to Tipperary
Blaenau Gwent Rhythm & Ukes