Arddangosfeydd Bach mewn Blychau
Grŵp Hyb Canol Cymoedd Gorllewinol Gwasanaeth Ieuenctid Caerffili
Gan weithio wrth ochr tîm o artistiaid, bu pobl ifanc o'r Hanger yn Aberbargoed yn ail-greu eu fersiynau eu hunain o "Arddangosfa mewn Blwch". Cawsant eu hysbrydoli gan wrthrychau a gynhwysir mewn nifer o flychau i ddatblygu eu gwaith.
Bu'r grŵp yn ymchwilio technegau decoupage a monoprint gyda'r artist Rhian Anderson i addurno a gwneud i'r blychau edrych yn hen. Buont yn gweithio gyda Chris Walters i wneud copïau o geiniogau marwolaeth allan o glai, yn cynrychioli distawrwydd galar. Bu'r artist tecstilau Penny Turnbull yn helpu'r grŵp i wneud clustogau pinnau cariad yn cysylltu gyda distawrwydd menywod a chyflwynodd yr artist digidol Natasha James y grŵp i wahanol dechnegau ffotograffiaeth, gan ymchwilio'r defnydd o ffotograffiaeth stiwdio a llurgunio delweddau yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Mini Exhibitions in Boxes
Caerphilly Youth Services Mid Valleys West Hub Group
Working alongside a team of artists, young people based at the Hanger Aberbargoed re-created their own versions of “Exhibition in a Box”. They took inspiration from objects included in a number of the boxes to develop their work.
The group explored decoupage and mono-printing techniques with artist Rhian Anderson to decorate and age their boxes. They worked with Chris Walters to make replica death pennies out of clay, representing the silence of mourning. Textile artist Penny Turnbull helped the group to make sweetheart pincushions linking to the silence of women and digital artist Natasha James introduced the group to different photography techniques, exploring the use of studio photography and image manipulation during WW1.