Amdanom Ni: Celf ar y Blaen
Wedi ei sefydlu yn Ebrill 2008, sefydliad celfyddydol cymunedol yw Celf ar y Blaen. Mae’n weithgar yn ardal ddwyreiniol blaenau’r cymoedd gan gynnwys bwrdeisdrefi sirol Blaenau Gwent, Caerffili, Merthyr Tudful a Thorfaen.
Mae Celf ar y Blaen yn derbyn cyllid refeniw gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac fe'i cefnogir gan bartneriaeth o'r pedwar awdurdod lleol sy'n gysylltiedig (a'r Ymddiriedolaethau Hamdden a ddatganolwyd).
Ein nod yw darparu profiadau celfyddydol ysbrydoledig o ansawdd uchel sy’n berthnasol i gymunedau lleol. Mae Celf ar y Blaen yn cyflenwi rhaglen amrywiol o waith, yn ymestyn o redeg gweithdai galw heibio i gynnal perfformiadau rhanbarthol mawr mewn digwyddiadau blaenllaw.
Rydym yn credu yng ngallu’r celfyddydau i drawsnewid bywydau a symbylu newid cadarnhaol mewn cymunedau lleol. Rydym yn gweithio gyda phartneriaid o amrywiaeth o sectorau, fel datblygu cymunedol, gwasanaethau ieuenctid a’r sector iechyd, gan ddefnyddio’r celfyddydau i gyflawni amrywiaeth o ganlyniadau.